ROWND A ROWND: S4C | W 20 / 202016/5/2020 Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C a BBC Cymru Cynhyrchydd Gweithredol: Bedwyr Rees ROWND A ROWND Dydd Mawrth 12 Mai 2020 BBC Cymru ar S4C 20:25 Dydd Iau 14 Mai 2020 BBC Cymru ar S4C 20:25 Mae’r awyrgylch mor oeraidd yn nhŷ Elen a’r merched y bore yma nes bod Elen yn cyrraedd pen ei thennyn ac yn penderfynu mynd i chwilio am Ian er mwyn ei roi yn ei le. Mae’n amlwg nad yw Ian a Ceri yn fodlon gyda chanlyniad y sgwrs a daw Ceri i chwilio am Elen er mwyn trafod y sefyllfa’n fwy rhesymol. Mae’n ddiwrnod cyntaf Vince yn ei swydd newydd ac mae’n cymryd at y gwaith yn syth, er bod Sophie yn ddilornus iawn o’r sefyllfa. Mae Terry yn hen gyfarwydd â natur Sophie a dydi o fawr o dro yn dweud wrthi beth yn union mae o’n feddwl ohoni. Mae diwrnod y trip i Alton Towers wedi cyrraedd. Er nad ydi Elen yn hapus iawn bod y marched yn mynd, mae hi’n sylweddoli nad oedd ganddi ddewis yn y pen draw ond gwneud ei gorau i gadw’r ddysgl yn wastad. Mae’r diffyg hwyliau diweddar ar Aled yn dal i achosi penbleth i Mathew ac Iolo tra mae Dylan yn cael ei daflu oddi ar ei echel yn llwyr pan ofynna Fflur gwestiwn dyrys iawn iddo. A Rondo production for S4C / BBC Wales Executive Producer: Bedwyr Rees ROWND A ROWND Tuesday 12 May 2020 BBC Wales on S4C 20:25 Thursday 14 May 2020 BBC Wales on S4C 20:25 There’s a frosty atmosphere in Elen’s house, so much so that Elen reaches the end of her tether and decides to confront Ian.
It’s clear that neither Ian nor Ceri are happy with the outcome of Elen’s visit and Ceri decides to go searching for Elen so that they can have a more reasonable chat. It’s Vince’s first day in his new job at the school and he seems to be taking to his duties like a duck to water, despite Sophie’s disapproval. Terry overhears Sophie’s comments and tells her exactly what he thinks of her. The day of the trip to Alton Towers has arrived. Even though Elen isn’t too happy that the girls are going, she realises that she didn’t have a choice but to do her best and keep everyone happy. Aled’s recent bad mood is still causing confusion for Mathew and Iolo, while Dylan is completely taken aback when Fflur asks him a difficult question.
0 Comments
Leave a Reply.AuthorAndy Gibson for The TV Chronicle Archives
January 2021
Categories
All
|